Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2022
Amser:
08.46 -
10.04
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, Head of the Legal Service Richard Thomas, Strategic Transformation Tom Jackson, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Nid oes dim newidiadau i fusnes y llywodraeth yr wythnos hon.
Dydd Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 22 Tachwedd 2022
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid: Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf (30 munud)
Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022
· Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau’r Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen:
Dydd Mercher 23 Tachwedd 2022
Ac i drefnu'r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Tachwedd:
Jenny Rathbone
NNDM8130
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyhoeddi adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru;
b) bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:
(i) hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;
(ii) buddsoddi mewn asedau cymunedol;
(iii) mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;
b) cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.
Gyda'n gilydd drwy Adegau Anodd
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
5 Busnes y Senedd
5.1 Effaith Aelod yn gadael grŵp gwleidyddol ar gynrychiolaeth mewn Pwyllgorau a’r amser a neilltuir i wrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes effaith y ffaith nad yw Rhys ab Owen bellach yn aelod o grŵp Plaid Cymru yn y Senedd ar bwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd grŵp Plaid Cymru i lenwi'r swyddi gwag sydd wedi codi ar bwyllgorau, ac i gynnig bod y Senedd yn cytuno ar yr enwebiadau canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gynnig lle i Rhys ab Owen ar y Pwyllgor Deisebau, yn amodol ar gytundeb y Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â gwneud unrhyw newidiadau pellach i aelodaeth a chadeiryddiaeth pwyllgorau, na’r dyraniad amser yn y Cyfarfod Llawn ar hyn o bryd.
6 Diwygio'r Senedd
6.1 Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd: Cymorth ar gyfer penderfyniad y Pwyllgor Busnes
1. Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy (argymhelliad 4)
Trafododd y Pwyllgor Busnes y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd, mewn egwyddor, i ddod i’r casgliad y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn gwahanol ar y nifer o Weinidogion Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol at drafodaeth bellach am lefel y trothwy o ran isafswm a/neu uchafswm, ac a ddylai'r ddeddfwriaeth gynnwys ystod ar gyfer y nifer o Weinidogion Cymru.
2. Nifer y Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy
Daeth Pwyllgor Busnes i'r casgliad y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn o ddau Ddirprwy Lywydd, yn hytrach nag un, fel sydd ar hyn o bryd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at drafodaeth bellach am sut y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn ofynnol bod cydbwysedd gwleidyddol rhwng y Llywydd a’r dirprwyon, a pha deitlau a ddefnyddir ar gyfer y swyddi hynny yn y ddeddfwriaeth.
3. Y nifer o Gomisiynwyr y Senedd mewn Senedd fwy
Daeth y Pwyllgor Busnes i’r casgliad na ddylai fod unrhyw newid i'r darpariaethau statudol presennol o ran y nifer o Gomisiynwyr y Senedd.
4. Y canlyniadau pe bai Aelod yn newid eu plaid wleidyddol pe bai wedi eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig
Daeth y Pwyllgor Busnes i'r casgliad na fyddai'n argymell y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd gyflwyno canlyniadau deddfwriaethol sy'n deillio o fod Aelod o'r Senedd yn newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i fecanweithiau mewnol y Senedd sy'n ymwneud ag aelodaeth grŵp wrth adolygu Rheolau Sefydlog cyn tymor y Senedd nesaf.
6.2 Papur cefndir: nifer y deiliaid swyddi
Nododd y Pwyllgor y papur.
6.3 Papur cefndir: canlyniadau pe bai Aelod yn newid plaid wleidyddol.
Nododd y Pwyllgor y papur.